Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 12 Mehefin 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lucas Boissevain, Mustang Marine Nick Bourne, Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Mike Corne, eCube Solutions Gareth Jenkins, Ardal Fenter Glynebwy |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Panel o fusnesau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Mike Corne, Partner a Chyfarwyddwr Masnachol yn eCube Solutions, a Lucas Boissevian, Cyfarwyddwr Cyllid yn Mustang Marine.
2.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3 Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch - Tystiolaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Cyllid.
3.2 Ymatebodd y Gweinidog a’r swyddog i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:
· Nodyn ar y newidiadau y gallai’r Gweinidog eu gwneud i amodau ariannu sefydliadau addysg uwch.
· Canran yr arian i sefydliadau addysg uwch sy’n dod gan Lywodraeth Cymru.
3.4 Cytunodd y tîm clercio i roi trawsgrifiad o’r sesiwn Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ar 15 Mai i’r Aelodau.
3.5 Cytunodd y Clerc i ddrafftio llythyr i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn nodi amheuon y Pwyllgor ynghylch ‘rheolaethau anneddfwriaethol’.
4 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Cadeiryddion y Byrddau Ardaloedd Menter
4.1 Croesawodd y Cadeirydd Nick Bourne, Cadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, a Gareth Jenkins, Cadeirydd Ardal Fenter Glynebwy.
4.2 Ymatebodd y tystion i’r cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol ar 8 Mai 2013.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 7
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Trafod dangosyddion perfformiad allweddol Comisiwn y Cynulliad
7.1 Trafododd y Pwyllgor Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Comisiwn y Cynulliad.
7.2 Cytunodd y Clerc i ddrafftio llythyr i Gomisiwn y Cynulliad yn nodi eu cynnig ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a gofyn am gymariaethau â’r blynyddoedd/tymhorau blaenorol lle y bo’n gymwys.